Rhwydweithiau Natur
Mae’r prosiect hwn yn cael ei gyllido gan y Rhaglen Rhwydweithiau Natur. Mae’n cael ei gyflwyno gan y Gronfa Dreftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru.
Mae tua 1,000 o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGAoedd) yng Nghymru, yn gorchuddio tua 12% o'r wlad. Mae'r rhain yn amrywio o ran maint o fynyddoedd cyfan i ddolydd sengl bach.
Mae ‘nodweddion’ SoDdGA yn rhesymau dros statws arbennig a gwarchodaeth y safle – mae tua 650 o’r rhain yn dacsa planhigion unigol. Yn 2020, dywedodd adroddiad gan Gyfoeth Naturiol Cymru am gyflwr SoDdGA’oedd yng Nghymru: un neges oedd bod 50% o nodweddion rhywogaethau ar SoDdGAoedd yn cael eu hystyried fel eu bod mewn cyflwr ‘anhysbys’.
Nod prosiect dwy flynedd y BSBI yw helpu drwy edrych ar 165 o nodweddion planhigion 'coll' - y rhai heb unrhyw gofnodion yng Nghronfa Ddata Dosbarthiad BSBI (DDb) yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf, o fewn ffiniau’r safleoedd hynny.


Cynlluniau ar gyfer 2025
O’r 165 o nodweddion ‘coll’ ar ddechrau’r prosiect ym mis Mehefin 2024, mae’r rhestr wedi cael ei lleihau i lai na 100 erbyn hyn. Tymor maes 2025 yw’r amser i arolygu (ac ailddarganfod gobeithio!) cymaint o’r planhigion blaenoriaeth sy’n weddill â phosibl.
Gan weithio gyda’n cofnodwyr botanegol gwirfoddol, byddwn yn arolygu ac yn asesu nodweddion arbennig planhigion unigol ar SoDdGAoedd yng Nghymru – gan wella’r dystiolaeth o’u cyflwr, cyfrannu at amcanion cadwraeth, a helpu fel sail i reolaeth yn y dyfodol.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn darganfod mwy, neu gymryd rhan mewn arolygon, dilynwch y prosiect drwy gyfrif Bluesky BSBI Cymru neu cysylltwch.


